Os wyt ti’n chwilio’n ddigon caled, fe weli di enfys ym mhob man. Yn enwedig mewn dinas fel hon, yn enwedig fel mae’r gwanwyn ar fin ffrwydro’n llachar dros y strydoedd a’r parciau. Cyn bo hir, fe ddaw digon o haul i gael y gorau o liwiau’r dillad a’r diodydd a’r sbwriel sy’n blaguro yng nghorneli’r strydoedd. Cyn bo hir, bydd y coed ceirios yn eu blodau, yn tasgu pinc ar hyd llwybrau llwyd y parc. Cyn bo hir, bydd y gwres yn goglais gwên amryliw i bob gwyneb, ac i wneud iti graffu’n ddigon manw