Dewr iawn yw penderfyniad Guto Harri i dderbyn swydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson.

Nid oherwydd y sylwadau anghyfeillgar a luchiwyd ato gan ambell i Gymro – ond oherwydd dyfodol bregus ei fos newydd.

Soniais eisoes y gallem ddisgwyl i Boris gyhoeddi cynllun er mwyn ceisio achub ei groen. A dyma fe: Levelling up the United Kingdom.

Ond, och a gwae, mae’r ddogfen yn ddi-ffocws ac yn or-gymhleth.