Doeddwn i ddim wedi bwriadu sôn am Y Parchedig Emyr Ddrwg yr wythnos hon. Roeddwn i wedi gwneud rhywbeth dw i’n ceisio’i osgoi sef penderfynu ymlaen llaw nad ydw i am adolygu rhaglen. Dw i ddim yn siŵr iawn pam yn union. Yn rhannol gan fy mod wedi trafod rhaglen ddogfen gan griw Docshed ychydig fisoedd yn ôl efallai ond os ydw i’n berffaith onest, gan fod gen i fymryn o ofn. Ofn ymdrin â phwnc fymryn yn ‘anodd’, dipyn o dabŵ.