Mae ymyrraeth filwrol yn bwnc… anodd. Mae’n hawdd iawn, o gysur Cymru, ei gwrthod yn llwyr, heb orfod poeni am ffawd pobl eraill ym mhen arall y byd, eu rhyddid na’u hawliau. Hawdd hefyd yw galw amdano, yn gwybod na fyddwch chi na’ch anwyliaid yn y rheng flaen.