“Wythnos dweud stori,” meddai rhywun yn y gwaith. “Ydan ni angen gwneud rhywbeth am hyn?” Ac mae yna dawelwch sy’n para’ ychydig yn rhy hir, fel petai pawb yn meddwl yr un fath, a neb yn ddigon dewr i’w ddweud o.
Fi sy’n ateb yn y diwedd, yn dweud fod hwn yn gyfle i hyrwyddo llythrennedd, efallai i ryddhau datganiad am bwysigrwydd rhieni’n darllen i’w plant. Dw i ddim yn dweud nad oes angen Wythnos Dweud Stori mewn gwirionedd, am ein bod ni i gyd yn byw yn ein straeon bach ein hunain o hyd.