Gwnaeth llun gipio fy sylw’n ddiweddar – map, i fod yn fanwl gywir (dw i’n licio mapiau). Roedd y map yn dangos y gwahanol eiriau yn ieithoedd Ewrop ar gyfer y gair ‘selfie’. Y peth rhyfeddaf oedd bod pob iaith yn defnyddio’r Saesneg neu fersiwn ohoni, ar wahân i ddwy – y Gymraeg a’r Wyddeleg.