Mae’n gan mlynedd eleni ers i Gymdeithas Pêl-droed Cymru wahardd clybiau rhag caniatáu i fenywod chwarae pêl-droed ar eu caeau. Roedd gêm y merched wedi dod yn boblogaidd ymysg gweithwyr ffatrïoedd arfau rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd yna ddigon o ddiddordeb i ffurfio cynghrair yn y de yn 1917.