Mae cyfnod y Nadolig wir wedi gorffen. Does dim rhaid i fi ddwyn perswâd ar fy hun fy mod i’n “gwylio’r deiet” bellach achos rydan ni wedi dianc o fis Ionawr, y mis sydd efo’r un tywydd gaeafol â’r Nadolig, ond heb y ffilmiau, y dathliadau na’r bwyd. Hwre. Yn ogystal â hynny, mae nifer fawr o fyfyrwyr yn dychwelyd nôl i’r Brifysgol ar hyn o bryd, am semester llawn hwyl a sbri, gan gynnwys traethodau diddiwedd, arholiadau, safonau byw amheus, a diffyg arian. Mae’r flwyddyn yn edrych fel un addawo