Drwy gydol mis Ionawr, dw i wedi bod yn cynnal arbrawf arnaf fi fy hun. Dim byd mor ddramatig â gwaith Dr Jekyll yn anffodus – ond rhywbeth trawsnewidiol yr un fath. Dw i wedi bod yn ‘dilyn y wyddoniaeth’ – yn cymryd slogan y llywodraeth i’r eithaf, ac yn trio dilyn canllawiau gwyddonol ar gyfer lles ac iechyd i’r lythyren.