Doeddwn i wir ddim yn meddwl mai’r peth mwyaf diddorol y byddwn i’n ei wneud ar Nos Galan oedd mwynhau gwylio drama newydd Jamie Dornan, a hynny am chwe awr yn ddi-stop. Doeddwn i ddim yn disgwyl ysgrifennu am The Tourist yr wythnos hon, neu wylio fe hyd yn oed, ond roedd e ‘mlaen yn y cefndir, ac o fewn rhai munudau, roedd rhaid i fi wybod pam bod Jamie Dornan yng nghanol Awstralia efo dim waled a dim ffôn, ag achos gwael o amnesia.