Un o’r amcanion cyntaf a wireddwyd gan y Natsïaid yn ystod 1933-1935 oedd ‘glanhau’ (säuberung) prifysgolion yr Almaen o’u myfyrwyr a’u darlithwyr Iddewig. Roedd y carthu hwn yn gysylltiedig â’r ymgais i ‘gydgysylltu’ (Gleichschaltung) bywyd academaidd yr Almaen â daliadau Sosialaeth Genedlaethol.