Flynyddoedd yn ôl, pan o’n i’n tyfu lan yn Llanelli, un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o fwrw sen ar rywun oedd ei ddisgrifio fel person “confident”.
Os oedd gan rywun uchelgais y tu hwnt – neu wahanol hyd yn oed – i’r arferol, roedd e’n “confident”.
Os oedd rhywun yn fodlon mentro barn ychydig yn wahanol i’r arferol, roedd e’n “confident”.
Os oedd rhywun yn gwisgo’n wahanol i’r arfer, roedd e’n “confident”.