Daeth y newyddion yr wythnos hon bod academi Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi cau lawr. Mae’r newyddion wedi dod ar ôl i ni glywed bod y clwb heb wneud cais am drwydded gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer y tymor nesaf. Mae’r clwb wedi ei wahardd rhag chwarae ers sbel oherwydd camymddwyn ariannol.