O ran amseriad, does yna fawr o amheuaeth mai tacteg i dynnu sylw oddi ar drafferthion Alcohol-Downing Street oedd cyhoeddiad Nadine Dorries am drwydded y BBC.

Gobeithio na fydd pobol yn cael eu twyllo gan hynny ac na fydd y Bîb chwaith yn mynd yn fwy llywaeth … na’r gwasanaethau o Lundain yn mynd hyd yn oed yn fwy Anglo-Brydeinllyd nag y maen nhw ar hyn o bryd.

Ond y tu cefn i’r tactegau digywilydd, mae yna bwynt strategol llawer pwysicach, gan mai dyma’r ymgais ddiweddara’ o lawer i geisio tanseilio’r prif gorff darlledu nid-er-elw.

Y cysur mawr ydi fod rhai mwy abl na Nadine a Boris wedi rhoi cynnig ar hyn o’r blaen ac wedi methu â dod o hyd i’r ateb.

Mae yna ddadl, wrth gwrs, fod cawr cyhoeddus fel hyn yn anacronistig a’r drefn yn hen ffasiwn ond dydi hynny ddim o angenrheidrwydd yn beth gwael. Mae pwrpas y BBC yr un mor ddilys ag erioed ac, os rhywbeth, yn bwysicach yn yr oes gyfathrebu newydd.

Enghraifft o hynny ydi gwasanaethau darlledu Cymru a’r Gymraeg; gwasanaethau angenrheidiol a fyddai’n cael eu colli neu eu gwanhau’n ddifrifol heb gefnogaeth gyhoeddus.

Y peryg mawr ydi fod y gwasanaethau mwya’ poblogaidd yn cael eu gosod ar raddfa fasnachol a’r gweddill yn cael eu gadael i wywo ar y gangen gyhoeddus, yn agored i ymosodiadau o fod yn elitaidd neu’n plesio lleiafrifoedd ac, felly, yn agored i ragor o doriadau ariannol.

Os ydi hynny’n digwydd, mi fydd pob dadl wedi mynd yn erbyn datganoli darlledu, gan gynnwys honno sy’n dweud bod Cymru, drwy fod yn rhan o Gorfforaeth Brydeinig, yn cael llawer mwy nag y gallai ei fforddio fel arall. (Yn ôl yr adroddiadau blynyddol, mi fyddai cost y gwasanaethau Cymreig, gan gynnwys S4C, yn weddol agos at incwm y BBC yng Nghymru ar hyn o bryd).

Beth bynnag ydi natur y farchnad ddarlledu a chyfathrebu rhyngwladol, yr hyn sy’n hanfodol i ni ydi cynnal gwasanaethau fel Radio Cymru, S4C, y rhaglenni Saesneg Cymreig a’r gweddau digidol ar y gwasanaethau hynny.

Ond mae’r cyhoeddiad hefyd yn dangos gwendid y drefn ar hyn o bryd a’r peryg fod ein hwyau diwylliannol mewn ychydig fasgedi sy’n ddibynnol, yn y pen draw, ar chwiw gwleidyddion a phenaethiaid darlledu yn Lloegr. O ran y wasg brint, mae yna ddibyniaeth ar gwmnïau o’r tu allan eto, gan arwain at y math o danseilio sy’n digwydd i gynnwys yr Herald Cymraeg ar dudalennau’r Daily Post yn y gogledd.

Datganoli polisi cyfathrebu sydd ei angen, yn ei holl agweddau. Wedi’r cyfan, mae’r arian i wasanaeth fel golwg360 wedi ei rewi ers 13 mlynedd a’r arian i gylchgronau ers llawer mwy na hynny.

Ochr yn ochr â’r chwaraewyr mawr sydd, ar hyn o bryd, yn gorfod dawnsio i alawon pibyddion o bell, mae angen cyfryngau annibynnol bywiog hefyd; clytwaith o wasanaethau amrywiol sy’n gweithio i ni yn ogystal ag i farchnadoedd masnachol a gwleidyddol.