Mater o amser oedd hi nes i Owain Wyn Evans gael ei raglen ei hun ar S4C. Er mai ar y sianel y dechreuodd ei yrfa fel cyflwynydd, mae wedi profi llwyddiant yn dweud y tywydd dros y ffin ers hynny ac wedi dod i amlygrwydd pellach yn ddiweddar yn codi miliynau i Blant Mewn Angen yn chwarae dryms am 24 awr. Ai nhw neu Rownd a Rownd a’u carolathon a gafodd y syniad yn gyntaf, dw i ddim yn siŵr.