Wel, mae’n ganol Ionawr.

Amser traddodiadol ar gyfer erthyglau doji am ‘blue Monday’, tywydd llwyd a thorri addunedau.

Ac o edrych o gwmpas ar ddechrau’r wythnos am destun colofn, mae’n ddigon hawdd teimlo’n llwm: partïon sarhaus Downing Street, rhybuddion am fusnesau’n cau, deddfwriaeth lawdrwm yn erbyn protest ac, yn dorcalonnus, gwylnos arall i fenyw arall wedi ei llofruddio. Mae lloffa, neu sgrolio, trwy’r newyddion yn gwneud i galon rhywun deimlo’n drwm.