Mae gwefan newydd wedi ei chreu sy’n dangos hanes y diwydiant llechi yng Ngwynedd, ac yn gyfle i glywed lleisiau’r rhai sy’n dal i weithio yn y maes.

Ceir sawl llun trawiadol ar www.llechi.cymru gan gynnwys yr un yma o Borth Penrhyn ym Mangor, sef yr harbwr o le’r oedd llechi Chwarel y Penrhyn ym Methesda yn cael eu halfforio i bedwar ban byd.