Liz Saville Roberts ydi’r ddiweddara’ i ymuno yn yr ymgyrch i gael mwy o degwch mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig i bobol sydd â dementia.

Mae aelod San Steffan tros Ddwyfor Meirionnydd wedi cael sylw mawr wrth godi ei llais ar ôl iddi, drwy ei mam, gael profiad uniongyrchol o’r darpariaethau.

Mae’r trafferthion yn bod ers y dechrau pan oedd yr awdurdodau a’r darparwyr yn trïo gwneud iawn am lanast yr wythnosau cynta’ – ac nid dim ond pobol â dementia sy’n diodde’.