Felly, cafwyd pedwar o bobl ifanc yn ddieuog o ddifrod troseddol yn sgil eu cyfraniad at dynnu cerflun Edward Colston o’i blinth a’i luchio i’r dŵr ym Mryste.

A dw i’n falch. Yn hynod, hynod falch.

Mae rhai yn ein plith, wrth gwrs, yn gandryll, ac yn honni bod hyn yn rhoi rhwydd hynt i fandaliaid o bob math ddinistrio eiddo pobl eraill os ydyn nhw ffansi.