Yn ystod y pandemig, wnaeth eitha lot o bobl sylweddoli pa mor gyflym mae hawliau a breintiau pob dydd yn gallu cael eu cymryd i ffwrdd. I rai, colli’r fraint i fynd i weld teulu neu fynd i’r gym oedd e. I eraill, colli’r cyfle i chwarae pêl-rwyd efo’r gang neu fynd mas i glwb a dawnsio tra off eu penau ar bŵz neu beth bynnag arall allech chi ffeindio yn y toiledau Y Kings yng Nghaerffili ar nos Wener.