Newidiodd pethau i fi yn 2021. Oherwydd Covid, weles i ddim ond 45 o gemau pêl-droed yn fyw. Mae hynny’n ddwbl yr hyn a welais yn 2020, ond ddim yn cymharu efo 2018 pan weles i dros 150.

Ond y prif beth sydd wedi newid eleni yw bod fy ail fab wedi gadael cartref i fynd i Brifysgol gan ddilyn ei frawd i astudio ym Met Caerdydd. Ac yn sydyn iawn, mae fy mywyd yn llawer mwy gwag. Mae gen i drydydd mab, ond dydy’r ifancaf ddim efo llawer o ddiddordeb yn y gêm.