Rai misoedd yn ôl, rhoddodd yr heddlu stop cadarn ar wylnos Sarah Everard, a fynychwyd gan ferched yn bennaf. Ond yr wythnos ddiwethaf, wrth i griw o wrth-frechlynwyr heidio at safle profi-ac-olrhain ym Milton Keynes, yn gweiddi ar y staff (y bu’n rhaid iddynt guddio mewn cabanau) a difrodi offer, roedd Heddlu Dyffryn Tafwys yn anweledig.