’Dolig oedd y drwg; roedd Gwern bron yn siŵr o hynny. Ar y ffordd adref ar y trên ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn newydd sbon, roedd o wedi bod yn siŵr mai cwrw neithiwr oedd wedi achosi iddo gysgu rhwng Caerfyrddin ac Abertawe. Yna, wrth i’r syrthni deimlo fel petai yn suddo’n ddioglyd i fêr ei esgyrn, daeth i’w feddwl efallai mai rhywbeth arall oedd hyn; fod y pla, o’r diwedd, wedi dal i fyny gyda fo.

Roedd o wedi cofleidio gymaint o bobol.