Mae angen i ni fod yn debycach i’r Ffrancod.

Gwych o beth yw eu hamharodrwydd i ufuddhau pan fydd eu llywodraeth yn ceisio llyffetheirio’u hawliau – neu’n cyflwyno deddfau newydd er mwyn eu rheoli.

Peth cyffrous yw eu gweld yn protestio yn erbyn grym eu Gweinidogion. Er enghraifft, yn 2019 dinistriwyd 60% o gamerâu cyflymder Ffrainc wedi i’r llywodraeth leihau’r terfyn cyflymder ar ffyrdd deuol.