Ystrad Fflur. Blaenporth. Comins Coch. Pontrhydygroes. Enwau y mae pobl Ceredigion wedi’u sillafu fel’na ers amser maith, rhai ohonyn nhw hefyd yn gyfarwydd i ni sy’n byw y tu allan i’r sir. Ond daeth Comisiynydd y Gymraeg i’r adwy’r wythnos ddiwethaf i roi gwybod i bobl eu bod nhw’n anghywir. Ystrad-fflur, Blaen-porth, Comins-coch a Phont-rhyd-y-groes y dylent fod.