Roeddwn i’n ddeg oed pan welais fy ngêm bêl-droed gyntaf. Es i i Crystal Palace yn 1976 i wylio Caerdydd gyda fy Ewythr Glenn. Phil Dwyer oedd yn gapten yr Adar Gleision y diwrnod yna, ac felly fo oedd fy arwr pêl-droed cyntaf i.