Ma’ gas ’da fi feddwl faint o orie dw i ’di treulio’n dadle’n chwyrn am ryw fân bwyntiau ieithyddol dros y blynyddoedd. Gyment nes bo’ fi ’di cal rhyw dröedigaeth yn ddiweddar ac yn ceisio osgoi’r peth yn llwyr. Wel, oce, ddim cweit yn llwyr – ddim os oes colofn ynddi!