Dechreuodd y gyfres ddiweddaraf o Curadur ar S4C yr wythnos ddiwethaf gyda’r cerddor o Fachynlleth, Cerys Hafana, wrth y llyw. I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd, rhaglen gerddoriaeth yw hon sydd, fel y mae’r enw yn ei awgrymu, yn rhoi’r grym yn nwylo un cerddor i ddewis cyfranwyr a chyflwyno hanner awr o arlwy.