Mae’r larwm ar y ffôn i fod i swnio’n heddychlon – ‘Peaceful Harmony’ ydi enw’r alaw, yn delyn ac yn biano’n llifo’n ddiddrwg didda am 6.35 bob bore. Y ffordd orau un o ddeffro, heb unrhyw dinc aflafar na churiad i fynnu cyflymu’r galon. Mae Mike yn meddwl yr un fath bob dydd wrth ddeffro – mae hwn yn swnio fatha hysbyseb dŵr potel. Bellach, mae hi’n dywyll am 6.35 y bore.

Mae hi wedi cymryd dros hanner canrif i Mike sylweddoli mor bell mae’r tywyllwch yna’n treiddio.