Erbyn cyhoeddi’r golofn hon, mae’n bur debyg y byddwn ni’n gwybod holl fanylion y fargen y mae’r llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru wedi’i tharo â’i gilydd. Mae un neu ddau beth yn hysbys – bydd y ddêl yn cwmpasu llu o feysydd y mae angen gweithredu arnyn nhw, o ail gartrefi, i brydau ysgol am ddim, a bydd ystyriaeth i greu Awdurdod Darlledu i Gymru.