A dyna le’r oeddwn i, yn styc yn ddwfn yn unlle yng ngogledd Cymru yn trïo helpu gweinyddes o’r enw Aneira i ddod o hyd i ffiws newydd ar ôl i’r ’lectrics fynd off yn ei chaffi. Ar ôl crwydro o gwmpas yn y tywyllwch am beth wnaeth deimlo fel oriau, des i o hyd i’r ffiws newydd mewn hen gwpwrdd llawn bygs. Ac fel yr arwr ag yr ydw i, wnes i drwsio’r goleuadau. Cerddais i yn ôl fewn i’r caffi i groeso arwrol, a dyna le’r oedd Aneira yn sownd i gornel y nenfwd yn sgrechian mas sŵn fel bwystfil elec