Mae’r pabïau coch wedi bod yn ymddangos ers tipyn rŵan, fel y maen nhw bob blwyddyn, yn arwain at Sul y Cofio, y diwrnod hwnnw y cofiwn y rhai fu farw mewn rhyfeloedd. Y rhyfeloedd byd o hyd yw’r prif ffocws, ac ni allwn wadu bod ei berthnasedd yn dirywio yn sgîl hynny ymhlith nifer o bobl, yn enwedig pobl iau. Fy nghenhedlaeth i ydi’r olaf â chysylltiad uniongyrchol â’r ail ryfel mawr, oedd â neiniau a theidiau wnaeth fyw drwyddo. Efallai na ddylai’r ffaith fod bellach hanner poblogaeth Prydain