‘Lle ti’n mynd?’

‘O, jysd i’r llyfrgell i ’neud y gwaith cartra’ Hanes ’na erbyn pnawma. Dwi’m isho bwyd eniwe, ges i frecwast mawr.’

Mae Nel yn edrych i lawr am eiliad, a dwi’n gweld y penderfyniad i chwarae’r gêm yn cyrraedd ei hwyneb hi, y ffordd mae hi’n gwisgo gwên ffeind fel mwgwd dros ei cheg. ‘Oce, ddo’i i nôl chdi wedyn ta.’ Ac mae hi’n ymuno â’r llif swnllyd, llwglyd sy’n cerdded tua’r ffreutur.

Chwarae teg iddi. Mae hi’n gwybod, ond yn gwybod digon i beidio cydnabod y peth.