Wel dyna siom.

Er y pryder am ddyfodol y byd – a gallu’r blaned i’n cynnal – ni lwyddodd gwleidyddion COP26 i greu cynllun i’n hachub.

Ond nid yw hyn yn syndod. Wedi’r cyfan, rydym oll wrth ein boddau yn ein ceir drudfawr; ar ein gwyliau tramor; yn bwyta cig bob dydd – ac yn prynu’r gadgets diweddaraf. A phrin yw’r pleidleisiau sydd ar gael i unrhyw wleidydd sydd am ein gwahardd rhag mwynhau bywyd.