Rydw i wedi bod yn mwynhau gwylio Pencampwriaeth Seiclo’r Byd yr wythnos yma, sydd wedi bod yn digwydd draw yng Ngwlad Belg. Mi’r oedd yna lwyddiant i Gymru pan enillodd Zoe Backstedt o Bontyclun ras iau y merched. Mae gan Zoe ddyfodol disglair yn y maes.

Ras olaf yr wythnos oedd un y dynion, ac am yr ail dro yn olynol, Julian Alaphillipe yw’r dyn sydd wedi ennill yr hawl i wisgo’r crys gwyn gyda streipiau’r enfys ar ei draws.