Mae’r atgof fel alaw ers talwm, neu fel breuddwyd sy’n hawdd i’w hanghofio. Mae iddo’r un natur fregus, frau â phob atgof o lasoed – cyfnod euraid ysgol uwchradd, pan fo popeth, y llawen a’r lleddf, yn cael ei deimlo i’r byw. Cyfnod yr uchelfannau a’r iselfannau. Yn y fan honno mae’r atgof hwn yn llechu, ychydig yn niwlog, ychydig yn hiraethus, a tydi o’n ddim byd, a dweud y gwir – dim ond noson arall o waith cartref Cymraeg, a phob cynghanedd a phob gwerslyfr yn gwneud iddi deimlo nad oedd hi’n