Yn ei waith newydd mae arlunydd o’r Groeslon, sydd wedi byw mewn sawl gwlad ar hyd ei oes yn ceisio trafod dallineb dyn i argyfwng ei blaned…

“Dw i’n teimlo fy mod yn llawer mwy cyfforddus y dyddiau yma o fod ychydig ar wahân. Dw i ddim yn arlunydd nodweddiadol neu draddodiadol. Dydw i ddim yn paentio tlysni ryw lawer. Dw i bendant yn dilyn fy nhrywydd fy hun ac yn gweld i ble mae’n fy arwain.”