Sai’n lico tenis rhyw lawer, a gweud y gwir ma’i siŵr o fod ymhlith y campau ma’ ’da fi leia’ o ddiddordeb ynddi. Ma’ Wimbledon yn rhy twee o lawer – ma’ sŵn chwerthin yn un o’r pethau hyfrytaf, ond ma sŵn chwerthin smug torf Wimbledon ar ôl digwyddiad di-ddim yn troi arna’i am ryw reswm. Watshes i bron bob gêm o Roland Garros un flwyddyn, ond o’dd hynna achos bo swine flu arna’i ar y pryd ac o’n i’n rhy wan i newid y sianel.