Gwych o beth yw’r A470.

Dyma’r briffordd sy’n cysylltu de a gogledd Cymru. Yr autobahn sy’n sicrhau bod modd teithio o un pen ein gwlad enfawr i’r llall mewn llai na 5 awr.

Hwyl a sbri yw llywio’ch car o gwmpas corneli di-ddiwedd lonydd bach cul ein superstrada enwog. Ar ddiwrnod da mae modd teimlo ffenestri’ch car yn crynu wrth i lori ddefaid wibio heibio oddi fewn i hanner modfedd i chi.