Mae’r berthynas rhwng pêl-droed Cymru a’r Unol Daleithiau yn un hir. Datblygwyd y gêm Americanaidd yn y 1970au a’r 1980au a Chymry oedd yn arwain y ffordd yr adeg hynny. Phil Woosnam o Gaersws oedd Comisiynydd ‘Cynghrair Pêl-droed Gogledd America’ a Phrif Hyfforddwr y tîm cenedlaethol.