Y mynydd wrth i’r hydref fygwth arllwys lliwiau cynnes, hiraethus i’r tir. Mae’r llwybrau’n hoel mil o draed yr haf, esgidiau cerdded a thrênyrs ac ambell sî-bŵt annoeth. Cannoedd o deithiau, pobol yn cyd-gerdded wrth sgwrsio a chwerthin a dadlau’n ysgafn am bethau sy’n teimlo’n fach fach pan fo natur yn teimlo mor fawr. Bellach, mae’r tywydd ar droi, a’r mynydd yn dawel, ond mae ’na rywbeth yn dal i fod yma, yn llechu oddi ar y prif lwybrau.