Y peth hawdd ydi condemnio’r chwalfa yn Affganistan; y ffordd y gwnaed y cyfan, y ddiffyg rhagweld, y methiant o ran dealltwriaeth, y calon-galedwch a’r rhagrith. Ond mae natur methiant ‘Y Gorllewin’ yn arwydd o rywbeth mwy.

Dydi hi ddim mor hawdd beirniadu penderfyniad sylfaenol Joe Biden i dynnu milwyr Americanaidd o’r wlad gan mai’r cwestiwn allweddol ydi pam oedden nhw yno yn y lle cynta’, yn parhau hanes dau gan mlynedd o ymyrraeth.