Ofnadwy yw meddwl am y rheiny nad achubwyd o Affganistan – er iddynt rhoi cymorth i lywodraethau’r Unol Daleithiau a Phrydain – ac sydd nawr yn wynebu dyfodol bregus.

Er hynny, gallwn groesawu’r 15,000 a ddaeth yma. Ac fe fyddwn, gobeithio, yn gallu croesawu teuluoedd estynedig y 15,000 wrth iddynt ffoi o Afghanistan dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.