Mae ’na syniad, ymhlith carfan benodol o boblogaeth Prydain, bod pawb yn y byd yn torri bol eisiau dod i fyw i’r ynysoedd hyn.

Bod bywyd mor braf, mor hawdd, fel bod holl bobloedd y byd eisiau codi pac ac ymgartrefu yma.

Bod y gyfundrefn fudd-daliadau mor hael fel bod gweddill y byd yn ei llygadu’n drachwantus ac yn dymuno manteisio arni.