Beth bynnag arall wnaiff ffiasgo trist Affganistan, mi fydd yn codi cwestiynau newydd am le Y Deyrnas Unedig yn y byd. Gan ddechrau gyda’r chwalfa ei hun …

“Mynegodd Chris Bryant AS ei ddicter am nad oedd y gwaith o gludo Affganistaniaid sydd mewn peryg wedi dechrau naw mis yn ôl pan gwblhaodd yr Arlywydd Trump gytundeb i adael gyda’r Taliban, nid yn unig y tu ôl i gefn y llywodraeth swyddogol ond hefyd y tu ôl i gefn ei gynghreiriaid yn NATO a’r gwledydd Ewropeaidd a oedd yn cyfrannu at adeiladu cenedl yn y wlad. Dw innau yr un mor flin a byddwn wedi nodi dyddiad dechrau achub cyfieithwyr a chontractwyr hyd yn oed yn gynharach, i’r dyddiad pan ddaeth yr ymgyrch filwrol i ben a phan gododd y bygythiadau cynta’ i’n ffrindiau Affganistanaidd.” (Frank Little ar ffrancsais.blogspot.com)

Un o ganlyniadau’r danchwa yn Affganistan fydd llif o ffoaduriaid a hynny eto, yn ôl John Dixon, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol …

“O ystyried y byd, mae’r Deyrnas Unedig yn wlad gyfoethog – cyfoethog iawn. Nid canlyniad diffyg adnoddau yw tlodi mewn cartrefi a newyn ond canlyniad y ffordd y bydd yr adnoddau yna’n cael eu rhannu. Ac mae’r rhannu hwnnw yn ganlyniad dewis gwleidyddol bwriadol – sy’n golygu y gallai gael ei newid trwy ddewisiadau gwleidyddol gwahanol. Er hynny, mae’n siwtio’r dosbarth sy’n llywodraethu’r Deyrnas Unedig i esgus ei bod yn ‘amhosib fforddio’ dileu tlodi, diffyg bwyd a diffyg cartrefi ac mae’n eu siwtio fwy fyth i ganiatáu i ddicter cyfiawn ynghylch y materion hynny gael eu cyfeirio at fewnfudwyr a ffoaduriaid yn hytrach nag atyn nhw.” (borthlas.blogspot.com)

Ond, yn ôl Claire Thomas o Sefydliad Bevan gynt, mae anghenion gwleidyddol Cymru yn wahanol …

“Mae mewnfudwyr yn weithwyr hanfodol neu ‘allweddol’ yn ein Gwasanaeth Iechyd, ym meysydd gofal cymdeithasol, cynhyrchu bwyd a chroeso. Gall mewnfudwyr ddod â sgiliau a syniadau newydd gyda nhw sy’n cryfhau ein heconomi. Yn arwyddocaol, trwy symud i Gymru maen nhw wedi atal poblogaeth Cymru rhag cwympo a’r economi rhag crebachu. Mae pryderon y dyfodol am dwf poblogaeth, poblogaeth sy’n heneiddio, gostyngiad yn y boblogaeth oed gwaith a dirywiad gwledig yn golygu bod gan fewnfudwyr hefyd rôl bwysig at y dyfodol.” (bevanfoundation.org)

Yn yr Alban, roedd Stuart Mackenzie Gray yn tynnu sylw at broblem arall ynghylch statws gwledydd Prydain … a hynny yr un mor berthnasol i Gymru …

“Pan fydd ‘Prydain Fydeang’ yn dechrau’n fuan ar drafod cytundebau masnach rydd gyda gwledydd amaethyddol mawr eraill, fel yr Unol Daleithiau, Seland Newydd, India a bloc Mercosur [yn Ne America], fe fydd y gwledydd hyn yn cyfeirio at esiampl Awstralia ac yn mynnu’r un hawliau masnach – dim tollau, dim cwotâu. Oblygiadau tymor hir hyn? Ffermwyr Albanaidd wedi eu dinistrio oherwydd mewnforio bwyd rhad. Gyda chystadleuwyr tramor yn cynnig prisiau is, bydd sector ffermio’r Alban yn edwino’n araf a marw wrth i gwsmeriaid ddewis mewnforiadau rhatach yn hytrach na chynnyrch lleol. Cannoedd o ffermydd teuluol bach yn mynd i’r wal.” (bellacaledonia.org.uk)