Yn fyw o Sioe Tregaron

Tregaron oedd lleoliad yr unig sioe amaethyddol i gael ei chynnal yng Ngheredigion eleni. Sioe fach yn draddodiadol, ond sioe brysurach na’r arfer eleni wrth i bobol leol werthfawrogi’r cyfle cyntaf i ddod ynghyd mewn digwyddiad o’r fath ers dros 18 mis.

Bu rhai o bobol ifanc y fro yn gohebu o’r sioe – rhai yn mwynhau astudio’r stoc a’r cystadlu brwd, ac eraill wrth eu bodd yn dal naws y sioe a’i phobol gyda lluniau a fideos amrywiol. Mae’n werth byseddu’ch ffordd trwy’r blog ar Caron360, tasa hi ond i weld cymaint o wynebau cyfarwydd mewn un man!

86DB8E70-DD6B-45AD-9F38

Sioe Tregaron

Enfys Hatcher Davies

Ymunwch â ni am y diweddaraf o’r sioe. 

 

Dychmygu dyfodol tafarn sy’n “lle i ddysgu byw”

“Mae’n lle i yfed a byta, i chwerthin a dadle’n iach, i chwarae pŵl a chanu a chynllunio’r ddrama nesa.” Ble? Wel, tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron. Mae’r dafarn yng nghanol Ceredigion ar werth ers rhai blynyddoedd, a’r les presennol ar fin dod i ben yn yr hydref. Felly, mae criw lleol wedi dechrau meddwl a oes cyfle i ddilyn ôl troed mentrau llwyddiannus Tyn Llan a Thafarn Sinc, lle mae’r gymuned yn prynu’r dafarn fel menter gydweithredol.

Hanes sesiwn syniadau gychwynnol gyda chynrychiolwyr mudiadau’r Dyffryn sydd ar Clonc360 yr wythnos hon. Ac ymhlith y pethau sy’n gwneud Tafarn y Dyffryn yn lle mor arbennig – yn ôl y rhai oedd yn bresennol ar y noson hon – oedd bod y Vale yn “lle i ddysgu byw”. Arwydd o dafarn dda!

Dychmygu dyfodol tafarn sy’n “lle i ddysgu byw”

Lowri Fron

Mae cyfle wedi codi i’r gymuned leol brynu tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron 

 

Calendr llawn Gŵyl(iau) Bro!

Bydd Gŵyl Bro yn cael ei chynnal y penwythnos yma mewn dros 20 o gymunedau ar draws Cymru. Cyfres o ddigwyddiadau lleol-iawn yw Gŵyl Bro, sy’n cael eu cynnal gan gymunedau er mwyn dod â phobol ynghyd a dathlu’r filltir sgwâr.

O deithiau cerdded i gigs i escape room newydd sbon o’r enw Jengyd, mae’r digwyddiadau’n amrywiol iawn, a chynifer ohonynt yn ddigwyddiadau cyhoeddus cyntaf i gael eu cynnal yn y cymunedau yma ers dros 18 mis.

I ddathlu’r ffaith bod digwyddiadau nôl, mae Golwg wedi lansio calendr digidol y mae modd i bawb gyfrannu ato. Ewch i calendr.360.cymru i weld a oes Gŵyl Bro yn eich ardal chi, ac ychwanegwch ddigwyddiadau!

Lansio gŵyl newydd sy’n helpu cymunedau i gamu mlaen o Covid

Lowri Jones

Cyfle pob cymuned yng Nghymru i gynnal eu Gŵyl Bro eu hunain ar 3-5 Medi

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Blog byw o Sioe Tregaron, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360
  2. Ail dîm Nantlle Vale ar frig y tabl ar ôl dechrau llwyddiannus i’r tymor, gan Begw Elain ar DyffrynNantlle360
  3. Casgliad i ddioddefwyr Afghanistan yn siop O Law i Law, gan Osian Owen ar Caernarfon360