Mahtab oedd ei henw.

Lloer oedd ystyr hynny, ac arferai ei Mam ei gwisgo hi mewn siwmperi gyda llun mawr crwn o leuad dros y frest, neu legins gyda degau o leuadau bychain yn crymanu dros noson nefi-blw serog ei choesau.