Mae dydd Gwener yn ddiwrnod Radio Cymru yn ein tŷ ni. O Trystan ac Emma yn y bore i Tudur Owen yn y prynhawn, yna Penwythnos Geth a Ger a Nos Wener Ffion Emyr gyda’r nos, dyma gartref fy hoff raglenni ar y sianel. Dyma ddiwrnod gorau Dros Ginio hefyd, diwrnod Dewi Llwyd. Ond mae un perl arall yn cuddio ymysg yr arlwy, rhaglen Lauren Moore.