Ma’n bosib ’mod i’n bod ’chydig bach yn optimistig, falle, ond yn y bythefnos dd’wetha’, ma’n teimlo i fi, am y tro cynta’ mewn gwirionedd, fel bo ni ’di dechre dod mas o’r pandemig go iawn.

Dw i ddim yn sôn am y tueddiadau ystadegol, y wyddoniaeth, y rheoliadau na’r gweithio gartre ac ati, dw i jyst yn sôn, rili, am y teimlad yn tŷ ni.

Yn y bôn, ma’ hyn lot i neud da’r ffaith bo’ fi wedi cael fy ngwallt wedi torri am y tro cynta’ ers dwy flynedd.