Fel cyfieithydd dwi’n cael yr anrhydedd amwys o orfod bathu geiriau newydd weithiau – yr ymdrech gynharaf oedd lyshluchio ar gyfer cocktail-throwing.

Ers hynny mae un neu ddau arall wedi codi’u pen; llwg-lid ar gyfer hanger (hynny yw bod yn hangry – y teimlad o fod yn flin pan fo chi’n llwglyd) a ffugarét ar gyfer vape. Amser a ddengys os cydia nhw!

Un gair nad oes unrhyw beth wedi’i fathu ar ei gyfer ydi troll.